Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau ym maes mabwysiadu ledled Cymru. Os ydych yn ystyried mabwysiadu neu ddim ond am gael rhagor o wybodaeth, rydych wedi dod i'r lle cywir.
Mae llawer o blant sydd angen teuluoedd mabwysiadol yng Nghymru.
Gall y broses o fabwysiadu fod yn daith hir ac emosiynol, ond mae'r canlyniadau'n werth chweil. Ewch ati i ymchwilio, siarad â'r bobl gywir a pharatoi. Unwaith y dewch i ddeall pob cam yn y broses fabwysiadu, gallwch fwynhau eich siwrnai. Ac ni fyddwch yn gwneud y siwrnai ar eich pen eich hun. Mae cymorth wrth law bob amser.
"Fe wnaeth ein mab biolegol ein helpu ni trwy’r broses honno hefyd, gan ein helpu i sylweddoli bod pob teulu'n wahanol"
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd"Dydy mabwysiadu ddim yn hawdd, ond yn y diwedd bydd gennych eich teulu eich hun." Dewisodd Scott ac Amanda fabwysiadu a nawr mae ganddynt ddau o blant ardderchog.
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd"Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd nes bod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rydw i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n aeddfetach erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rydw i'n sylweddoli pa mor hudolus a rhyfeddol y mae wedi bod."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd"Rydym am fod yn dadau da a rhoi bywyd gwych i'n mab."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd“Dydy’r mabwysiadu’n golygu dim i mi, ond mae fy rhieni’n golygu popeth.”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd